WEBVTT 1 00:00:22.360 --> 00:00:26.800 Wel, mae’r gynhadledd o ganlyniad i’n sgwrs genedlaethol dros y chwe mis diwethaf, 2 00:00:26.800 --> 00:00:31.380 yn gofyn i bobl ifanc yng Nghymru a oeddent yn credu y dylid gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed. 3 00:00:31.400 --> 00:00:37.080 Roedd 10,300 o ymatebion – nifer enfawr – a threfnwyd y gynhadledd hon o ganlyniad i hynny. 4 00:00:37.080 --> 00:00:40.260 Dywedodd dros 53 y cant y byddent yn hoffi gallu pleidleisio, 5 00:00:40.260 --> 00:00:43.460 dywedodd 29 y cant ‘na’, a dywedodd 19 y cant nad oeddent yn siŵr. 6 00:00:43.460 --> 00:00:49.060 Ond roedd hi’n ddiddorol gweld o’r canlyniadau bod 70 y cant yn dweud bod angen rhagor o wybodaeth, 7 00:00:49.060 --> 00:00:53.220 rhagor o addysg mewn ysgolion, felly byddwn ni’n sicr yn mynd ar drywydd hynny. 8 00:00:53.220 --> 00:00:57.500 Ond, yn y Cynulliad yma bore ‘ma, mae llawer o gyffro gyda’r holl bobl ifanc. Mae’n arbennig. 9 00:01:17.460 --> 00:01:23.200 Felly, yn un o gyfarfodydd Bwrdd Syr Ifanc, tua mis Rhagfyr, cafodd y cwestiwn ei ofyn: 10 00:01:23.200 --> 00:01:27.000 beth oeddem ni’n meddwl, a ddylem ni gael y bleidlais yn 16 neu beidio? 11 00:01:27.000 --> 00:01:32.320 Cawsom ni drafodaeth eithaf hir amdano fe, a daeth y rhan fwyaf ohonom ni i’r casgliad ei fod e’n beth da, 12 00:01:32.320 --> 00:01:36.600 a’i fod e hyd yn oed yn well eu bod nhw’n gofyn i ni, cyn ei roi i ni, os oeddem ni moyn e. 13 00:01:36.600 --> 00:01:41.500 Roedd lot fawr ohonom ni o blaid ei gael e. Er bod llawer o’r Bwrdd yn 16-25, 14 00:01:41.500 --> 00:01:48.000 byddai lot ohonom ni wedi colli mas eleni; fi wedi colli mas, o ychydig fisoedd, o gael pleidleisio yn etholiadau Prydain, 15 00:01:48.000 --> 00:01:53.560 ac mae’r ffaith eu bod nhw’n rhoi’r llais i ni, rhoi’r cyfle i ni fynegi barn ar gael hyn yn beth gwych. 16 00:01:54.020 --> 00:01:59.640 Yn sicr, fi’n credu dylem ni gael pleidlais yn 16. Rŷm ni’n gwybod mwy nag erioed o’r blaen am wleidyddiaeth - 17 00:01:59.640 --> 00:02:03.920 mae cymaint mwy o bobl â diddordeb mewn gwleidyddiaeth. Oes, mae angen addysg, 18 00:02:03.920 --> 00:02:08.900 ond mae hynny’n rhywbeth sy’n gallu cael ei wneud. Ein dyfodol ni yw e, felly ni ddylai gael y llais i’w ffurfio fe. 19 00:02:09.200 --> 00:02:16.380 Dwi wedi bod yn y grŵp sy’n trefnu’r dydd, achos mae wedi cael ei drefnu gan bobl ifanc i bobl ifanc, 20 00:02:16.380 --> 00:02:28.620 felly mae fe’n very pobl-ifanc-centric. Felly, dwi wedi bod yn rhan o’r grŵp sydd wedi trefnu fe. 21 00:02:29.360 --> 00:02:35.460 Dwi yn cytuno gyda gostwng yr oedran pleidleisio i 16, 22 00:02:35.460 --> 00:02:40.880 ond ddim tan fod addysg gwleidyddiaeth yn cael ei gwneud yn lot gwell - 23 00:02:40.880 --> 00:02:46.340 tan fod pob ysgol yn gorfod dysgu gwleidyddiaeth i bobl ifanc yn compulsory.